11 Felly y gwneir am bob ych, neu am bob hwrdd, neu am oen, neu am fyn.
12 Yn ôl y rhifedi a ddarparoch, felly y gwnewch i bob un, yn ôl eu rhifedi.
13 Pob priodor a wna'r pethau hyn felly, wrth offrymu aberth tanllyd o arogl peraidd i'r Arglwydd.
14 A phan ymdeithio dieithrddyn, neu yr hwn sydd yn eich plith trwy eich cenedlaethau, a darparu aberth tanllyd o arogl peraidd i'r Arglwydd; fel y gwneloch chwi, felly gwnaed yntau.
15 Yr un ddeddf fydd i chwi o'r dyrfa, ac i'r ymdeithydd dieithr; deddf dragwyddol yw trwy eich cenedlaethau: megis yr ydych chwi, felly y bydd y dieithr gerbron yr Arglwydd.
16 Un gyfraith, ac un ddefod, fydd i chwi, ac i'r ymdeithydd a ymdeithio gyda chwi.
17 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,