13 Pob priodor a wna'r pethau hyn felly, wrth offrymu aberth tanllyd o arogl peraidd i'r Arglwydd.
14 A phan ymdeithio dieithrddyn, neu yr hwn sydd yn eich plith trwy eich cenedlaethau, a darparu aberth tanllyd o arogl peraidd i'r Arglwydd; fel y gwneloch chwi, felly gwnaed yntau.
15 Yr un ddeddf fydd i chwi o'r dyrfa, ac i'r ymdeithydd dieithr; deddf dragwyddol yw trwy eich cenedlaethau: megis yr ydych chwi, felly y bydd y dieithr gerbron yr Arglwydd.
16 Un gyfraith, ac un ddefod, fydd i chwi, ac i'r ymdeithydd a ymdeithio gyda chwi.
17 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
18 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch i'r tir yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddo;
19 Yna pan fwytaoch o fara'r tir, y dyrchefwch offrwm dyrchafael i'r Arglwydd.