20 O flaenion eich toes yr offrymwch deisen yn offrwm dyrchafael: fel offrwm dyrchafael y llawr dyrnu, felly y dyrchefwch hithau.
21 O ddechrau eich toes y rhoddwch i'r Arglwydd offrwm dyrchafael trwy eich cenedlaethau.
22 A phan eloch dros y ffordd, ac na wneloch yr holl orchmynion hyn, y rhai a lefarodd yr Arglwydd wrth Moses,
23 Sef yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd i chwi trwy law Moses, o'r dydd y gorchmynnodd yr Arglwydd, ac o hynny allan, trwy eich cenedlaethau;
24 Yna bydded, os allan o olwg y gynulleidfa y gwnaed dim trwy anwybod, i'r holl gynulleidfa ddarparu un bustach ieuanc yn offrwm poeth, i fod yn arogl peraidd i'r Arglwydd, â'i fwyd‐offrwm, a'i ddiod‐offrwm, wrth y ddefod, ac un bwch geifr yn bech‐aberth.
25 A gwnaed yr offeiriad gymod dros holl gynulleidfa meibion Israel, a maddeuir iddynt; canys anwybodaeth yw: a dygant eu hoffrwm, aberth tanllyd i'r Arglwydd, a'u pech‐aberth, gerbron yr Arglwydd, am eu hanwybodaeth.
26 A maddeuir i holl gynulleidfa meibion Israel, ac i'r dieithr a ymdeithio yn eu mysg; canys digwyddodd i'r holl bobl trwy anwybod.