26 A maddeuir i holl gynulleidfa meibion Israel, ac i'r dieithr a ymdeithio yn eu mysg; canys digwyddodd i'r holl bobl trwy anwybod.
27 Ond os un dyn a becha trwy amryfusedd; yna offrymed afr flwydd yn offrwm dros bechod.
28 A gwnaed yr offeiriad gymod dros y dyn a becho yn amryfus, pan becho trwy amryfusedd gerbron yr Arglwydd, gan wneuthur cymod drosto; a maddeuir iddo.
29 Yr hwn a aned o feibion Israel, a'r dieithr a ymdeithio yn eu mysg, un gyfraith fydd i chwi am wneuthur pechod trwy amryfusedd.
30 Ond y dyn a wnêl bechod mewn rhyfyg, o briodor, neu o ddieithr; cablu yr Arglwydd y mae: torrer ymaith y dyn hwnnw o fysg ei bobl.
31 Oherwydd iddo ddiystyru gair yr Arglwydd, a thorri ei orchymyn ef; llwyr dorrer ymaith y dyn hwnnw: ei anwiredd fydd arno.
32 Fel yr ydoedd meibion Israel yn y diffeithwch, cawsant ŵr yn cynuta ar y dydd Saboth.