32 Fel yr ydoedd meibion Israel yn y diffeithwch, cawsant ŵr yn cynuta ar y dydd Saboth.
33 A'r rhai a'i cawsant ef, a'i dygasant ef, sef y cynutwr, at Moses, ac at Aaron, ac at yr holl gynulleidfa.
34 Ac a'i dodasant ef mewn dalfa, am nad oedd hysbys beth a wneid iddo.
35 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Lladder y gŵr yn farw: llabyddied yr holl gynulleidfa ef â meini o'r tu allan i'r gwersyll.
36 A'r holl gynulleidfa a'i dygasant ef i'r tu allan i'r gwersyll, ac a'i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.
37 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
38 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, am wneuthur iddynt eddi ar odre eu dillad, trwy eu cenedlaethau, a rhoddant bleth o sidan glas ar eddi y godre.