34 Ac a'i dodasant ef mewn dalfa, am nad oedd hysbys beth a wneid iddo.
35 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Lladder y gŵr yn farw: llabyddied yr holl gynulleidfa ef â meini o'r tu allan i'r gwersyll.
36 A'r holl gynulleidfa a'i dygasant ef i'r tu allan i'r gwersyll, ac a'i llabyddiasant ef â meini, fel y bu efe farw; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.
37 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
38 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, am wneuthur iddynt eddi ar odre eu dillad, trwy eu cenedlaethau, a rhoddant bleth o sidan glas ar eddi y godre.
39 A bydded i chwi yn rhidens, i edrych arno, ac i gofio holl orchmynion yr Arglwydd, ac i'w gwneuthur hwynt; ac na chwiliwch yn ôl eich calonnau eich hunain, nac yn ôl eich llygaid eich hunain, y rhai yr ydych yn puteinio ar eu hôl:
40 Fel y cofioch ac y gwneloch fy holl orchmynion i, ac y byddoch sanctaidd i'ch Duw.