4 Yna offrymed yr hwn a offrymo ei rodd i'r Arglwydd, o beilliaid ddegfed ran, wedi ei gymysgu trwy bedwaredd ran hin o olew, yn fwyd‐offrwm.
5 Ac offrwm di gyda'r offrwm poeth, neu yr aberth, bedwaredd ran hin o win am bob oen, yn ddiod‐offrwm.
6 A thi a offrymi yn fwyd‐offrwm gyda hwrdd, o beilliaid ddwy ddegfed ran, wedi ei gymysgu trwy drydedd ran hin o olew.
7 A thrydedd ran hin o win yn ddiod‐offrwm a offrymi yn arogl peraidd i'r Arglwydd.
8 A phan ddarperych lo buwch yn offrwm poeth, neu yn aberth yn talu adduned, neu aberth hedd i'r Arglwydd;
9 Yna offrymed yn fwyd‐offrwm gyda llo y fuwch, o beilliaid dair degfed ran wedi ei gymysgu trwy hanner hin o olew.
10 Ac offrwm hanner hin o win yn ddiod‐offrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.