19 Yna Cora a gasglodd yr holl gynulleidfa yn eu herbyn hwynt, i ddrws pabell y cyfarfod: a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd i'r holl gynulleidfa
20 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd,
21 Ymneilltuwch o fysg y gynulleidfa hon, a mi a'u difâf hwynt ar unwaith.
22 A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a ddywedasant, O Dduw, Duw ysbrydion pob cnawd, un dyn a bechodd, ac a ddigi di wrth yr holl gynulleidfa.
23 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd.
24 Llefara wrth y gynulleidfa, gan ddywedyd, Ewch ymaith o gylch pabell Cora, Dathan, ac Abiram.
25 A chyfododd Moses, ac a aeth at Dathan ac Abiram: a henuriaid Israel a aethant ar ei ôl ef.