23 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd.
24 Llefara wrth y gynulleidfa, gan ddywedyd, Ewch ymaith o gylch pabell Cora, Dathan, ac Abiram.
25 A chyfododd Moses, ac a aeth at Dathan ac Abiram: a henuriaid Israel a aethant ar ei ôl ef.
26 Ac efe a lefarodd wrth y gynulleidfa, gan ddywedyd, Ciliwch, atolwg, oddi wrth bebyll y dynion drygionus hyn, ac na chyffyrddwch â dim o'r eiddynt; rhag eich difetha yn eu holl bechodau hwynt.
27 Yna yr aethant oddi wrth babell Cora, Dathan, ac Abiram, o amgylch: a Dathan ac Abiram, eu gwragedd hefyd, a'u meibion, a'u plant, a ddaethant allan, gan sefyll wrth ddrws eu pebyll.
28 A dywedodd Moses, Wrth hyn y cewch wybod mai yr Arglwydd a'm hanfonodd i wneuthur yr holl weithredoedd hyn; ac nad o'm meddwl fy hun y gwneuthum hwynt.
29 Os bydd y rhai hyn feirw fel y bydd marw pob dyn, ac os ymwelir â hwynt ag ymwelediad pob dyn; nid yr Arglwydd a'm hanfonodd i.