31 A bu, wrth orffen ohono lefaru yr holl eiriau hyn, hollti o'r ddaear oedd danynt hwy.
32 Agorodd y ddaear hefyd ei safn, a llyncodd hwynt, a'u tai hefyd, a'r holl ddynion oedd gan Cora, a'u holl gyfoeth.
33 A hwynt, a'r rhai oll a'r a oedd gyda hwynt, a ddisgynasant yn fyw i uffern; a'r ddaear a gaeodd arnynt: a difethwyd hwynt o blith y gynulleidfa.
34 A holl Israel, y rhai oedd o'u hamgylch hwynt, a ffoesant wrth eu gwaedd hwynt: canys dywedasant, Ciliwn, rhag i'r ddaear ein llyncu ninnau.
35 Tân hefyd a aeth allan oddi wrth yr Arglwydd, ac a ddifaodd y dau cant a'r deg a deugain o wŷr oedd yn offrymu yr arogl‐darth.
36 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
37 Dywed wrth Eleasar, mab Aaron yr offeiriad, am godi ohono efe y thuserau o fysg y llosg; a gwasgara y tân oddi yno allan: canys sanctaidd ydynt: