33 A hwynt, a'r rhai oll a'r a oedd gyda hwynt, a ddisgynasant yn fyw i uffern; a'r ddaear a gaeodd arnynt: a difethwyd hwynt o blith y gynulleidfa.
34 A holl Israel, y rhai oedd o'u hamgylch hwynt, a ffoesant wrth eu gwaedd hwynt: canys dywedasant, Ciliwn, rhag i'r ddaear ein llyncu ninnau.
35 Tân hefyd a aeth allan oddi wrth yr Arglwydd, ac a ddifaodd y dau cant a'r deg a deugain o wŷr oedd yn offrymu yr arogl‐darth.
36 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
37 Dywed wrth Eleasar, mab Aaron yr offeiriad, am godi ohono efe y thuserau o fysg y llosg; a gwasgara y tân oddi yno allan: canys sanctaidd ydynt:
38 Sef thuserau y rhai hyn a bechasant yn erbyn eu heneidiau eu hun; a gweithier hwynt yn ddalennau llydain, i fod yn gaead i'r allor; canys offrymasant hwynt gerbron yr Arglwydd; am hynny sanctaidd ydynt: a byddant yn arwydd i feibion Israel.
39 A chymerodd Eleasar yr offeiriad y thuserau pres, â'r rhai yr offrymasai y gwŷr a losgasid; ac estynnwyd hwynt yn gaead i'r allor: