40 Yn goffadwriaeth i feibion Israel; fel na nesao gŵr dieithr, yr hwn ni byddo o had Aaron, i losgi arogl‐darth gerbron yr Arglwydd; ac na byddo fel Cora a'i gynulleidfa: megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses wrtho ef.
41 A holl gynulleidfa meibion Israel a duchanasant drannoeth yn erbyn Moses, ac yn erbyn Aaron, gan ddywedyd Chwi a laddasoch bobl yr Arglwydd.
42 A bu, wedi ymgasglu o'r gynulleidfa yn erbyn Moses ac Aaron, edrych ohonynt ar babell y cyfarfod: ac wele, toasai y cwmwl hi, ac ymddangosodd gogoniant yr Arglwydd.
43 Yna y daeth Moses ac Aaron o flaen pabell y cyfarfod.
44 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
45 Ciliwch o blith y gynulleidfa hon, a mi a'u difâf hwynt yn ddisymwth. A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau.
46 Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Cymer thuser, a dod dân oddi ar yr allor ynddi, a gosod arogl‐darth arni, a dos yn fuan at y gynulleidfa, a gwna gymod drostynt: canys digofaint a aeth allan oddi gerbron yr Arglwydd; dechreuodd y pla.