45 Ciliwch o blith y gynulleidfa hon, a mi a'u difâf hwynt yn ddisymwth. A hwy a syrthiasant ar eu hwynebau.
46 Dywedodd Moses hefyd wrth Aaron, Cymer thuser, a dod dân oddi ar yr allor ynddi, a gosod arogl‐darth arni, a dos yn fuan at y gynulleidfa, a gwna gymod drostynt: canys digofaint a aeth allan oddi gerbron yr Arglwydd; dechreuodd y pla.
47 A chymerodd Aaron megis y llefarodd Moses, ac a redodd i ganol y gynulleidfa ac wele, dechreuasai y pla ar y bobl: ac efe a rodd arogl‐darth, ac a wnaeth gymod dros y bobl.
48 Ac efe a safodd rhwng y meirw a'r byw; a'r pla a ataliwyd.
49 A'r rhai a fuant feirw o'r pla oedd bedair mil ar ddeg a saith gant, heblaw y rhai a fuant feirw yn achos Cora.
50 A dychwelodd Aaron at Moses i ddrws pabell y cyfarfod: a'r pla a ataliwyd.