5 Ac efe a lefarodd wrth Cora, ac wrth ei holl gynulleidfa ef, gan ddywedyd, Y bore y dengys yr Arglwydd yr hwn sydd eiddo ef, a'r sanctaidd; a phwy a ddylai nesáu ato ef: canys yr hwn a ddewisodd efe, a nesâ efe ato.
6 Hyn a wnewch: Cymerwch i chwi, sef Cora a'i holl gynulleidfa, thuserau;
7 A rhoddwch ynddynt dân, agosodwcharnynt arogl‐darth yfory gerbron yr Arglwydd: yna bydd i'r gŵr hwnnw fod yn sanctaidd, yr hwn a ddewiso yr Arglwydd: gormod i chwi hyn, meibion Lefi.
8 A dywedodd Moses wrth Cora, Gwrandewch, atolwg, meibion Lefi.
9 Ai bychan gennych neilltuo o Dduw Israel chwi oddi wrth gynulleidfa Israel, gan eich nesáu chwi ato ei hun, i wasanaethu gwasanaeth tabernacl yr Arglwydd, ac i sefyll gerbron y gynulleidfa, i'w gwasanaethu hwynt?
10 Canys efe a'th nesaodd di, a'th holl frodyr, meibion Lefi, gyda thi: ac a geisiwch chwi yr offeiriadaeth hefyd?
11 Am hynny tydi a'th holl gynulleidfa ydych yn ymgynnull yn erbyn yr Arglwydd: ond Aaron, beth yw efe, i chwi i duchan yn ei erbyn?