1 Adywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Tydi a'th feibion, a thylwyth dy dad gyda thi, a ddygwch anwiredd y cysegr: a thi a'th feibion gyda thi a ddygwch anwiredd eich offeiriadaeth.
2 A dwg hefyd gyda thi dy frodyr o lwyth Lefi, sef llwyth dy dad, i lynu wrthyt ti, ac i'th wasanaethu: tithau a'th feibion gyda thi a wasanaethwch gerbron pabell y dystiolaeth.
3 A hwy a gadwant dy gadwraeth di, a chadwraeth yr holl babell: ond na ddeuant yn agos at ddodrefn y cysegr, nac at yr allor, rhag eu marw hwynt, a chwithau hefyd.
4 Ond hwy a lynant wrthyt, ac a oruchwyliant babell y cyfarfod, yn holl wasanaeth y babell: ac na ddeued y dieithr yn agos atoch.