16 A phâr brynu y rhai a bryner ohonot o fab misyriad, yn dy bris di, er pum sicl o arian, wrth sicl y cysegr: ugain gera yw hynny.
17 Ond na phrŷn y cyntaf‐anedig o eidion, neu gyntaf‐anedig dafad, neu gyntaf‐anedig gafr; sanctaidd ydynt hwy: eu gwaed a daenelli ar yr allor, a'u gwêr a losgi yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.
18 Ond eu cig fydd eiddot ti; fel parwyden y cyhwfan, ac fel yr ysgwyddog ddeau, y mae yn eiddot ti.
19 Holl offrymau dyrchafael y pethau sanctaidd, y rhai a offrymo meibion Israel i'r Arglwydd, a roddais i ti, ac i'th feibion, ac i'th ferched gyda thi, trwy ddeddf dragwyddol: cyfamod halen tragwyddol fydd hyn, gerbron yr Arglwydd, i ti, ac i'th had gyda thi.
20 A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Na fydded i ti etifeddiaeth yn eu tir hwynt, ac na fydded i ti ran yn eu mysg hwynt: myfi yw dy ran di, a'th etifeddiaeth, ymysg meibion Israel.
21 Ac wele, mi a roddais i feibion Lefi bob degwm yn Israel, yn etifeddiaeth, am eu gwasanaeth y maent yn ei wasanaethu sef gwasanaeth pabell y cyfarfod.
22 Ac na ddeued meibion Israel mwyach yn agos i babell y cyfarfod; rhag iddynt ddwyn pechod, a marw.