2 A dwg hefyd gyda thi dy frodyr o lwyth Lefi, sef llwyth dy dad, i lynu wrthyt ti, ac i'th wasanaethu: tithau a'th feibion gyda thi a wasanaethwch gerbron pabell y dystiolaeth.
3 A hwy a gadwant dy gadwraeth di, a chadwraeth yr holl babell: ond na ddeuant yn agos at ddodrefn y cysegr, nac at yr allor, rhag eu marw hwynt, a chwithau hefyd.
4 Ond hwy a lynant wrthyt, ac a oruchwyliant babell y cyfarfod, yn holl wasanaeth y babell: ac na ddeued y dieithr yn agos atoch.
5 Eithr cedwch chwi oruchwyliaeth y cysegr, a goruchwyliaeth yr allor; fel na byddo digofaint mwy yn erbyn meibion Israel.
6 Ac wele, mi a gymerais dy frodyr di, y Lefiaid, o fysg meibion Israel: i ti y rhoddwyd hwynt, megis rhodd i'r Arglwydd, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod.
7 Tithau a'th feibion gyda thi a gedwch eich offeiriadaeth; ynghylch pob peth a berthyn i'r allor, ac o fewn y llen wahan, y gwasanaethwch: yn wasanaeth rhodd y rhoddais eich offeiriadaeth i chwi; a'r dieithr a ddelo yn agos, a leddir.
8 A llefarodd yr Arglwydd wrth Aaron, Wele, mi a roddais i ti hefyd oruchwyliaeth fy offrymau dyrchafael, o holl gysegredig bethau meibion Israel; rhoddais hwynt i ti, oherwydd yr eneiniad, ac i'th feibion, trwy ddeddf dragwyddol.