22 Ac na ddeued meibion Israel mwyach yn agos i babell y cyfarfod; rhag iddynt ddwyn pechod, a marw.
23 Ond gwasanaethed y Lefiaid wasanaeth pabell y cyfarfod, a dygant eu hanwiredd: deddf dragwyddol fydd hyn trwy eich cenedlaethau, nad etifeddant hwy etifeddiaeth ymysg meibion Israel.
24 Canys degwm meibion Israel, yr hwn a offrymant yn offrwm dyrchafael i'r Arglwydd, a roddais i'r Lefiaid yn etifeddiaeth: am hynny y dywedais wrthynt, nad etifeddent etifeddiaeth ymysg meibion Israel.
25 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
26 Llefara hefyd wrth y Lefiaid, a dywed wrthynt, Pan gymeroch gan feibion Israel y degwm a roddais i chwi yn etifeddiaeth oddi wrthynt; yna offrymwch o hynny offrwm dyrchafael i'r Arglwydd, sef degwm o'r degwm.
27 A chyfrifir i chwi eich offrwm dyrchafael, fel yr ŷd o'r ysgubor, ac fel cyflawnder o'r gwinwryf.
28 Felly yr offrymwch chwithau hefyd offrwm dyrchafael i'r Arglwydd, o'ch holl ddegymau a gymeroch gan feibion Israel; a rhoddwch o hynny ddyrchafael‐offrwm yr Arglwydd i Aaron yr offeiriad.