28 Felly yr offrymwch chwithau hefyd offrwm dyrchafael i'r Arglwydd, o'ch holl ddegymau a gymeroch gan feibion Israel; a rhoddwch o hynny ddyrchafael‐offrwm yr Arglwydd i Aaron yr offeiriad.
29 O'ch holl roddion offrymwch bob offrwm dyrchafael yr Arglwydd o bob gorau ohono, sef y rhan gysegredig, allan ohono ef.
30 A dywed wrthynt, Pan ddyrchafoch ei oreuon allan ohono, cyfrifir i'r Lefiaid fel toreth yr ysgubor, a thoreth y gwinwryf.
31 A bwytewch ef ym mhob lle, chwi a'ch tylwyth: canys gwobr yw efe i chwi, am eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.
32 Ac ni ddygwch bechod o'i herwydd, gwedi y dyrchafoch ei oreuon ohono: na halogwch chwithau bethau sanctaidd meibion Israel; fel na byddoch feirw.