4 Ond hwy a lynant wrthyt, ac a oruchwyliant babell y cyfarfod, yn holl wasanaeth y babell: ac na ddeued y dieithr yn agos atoch.
5 Eithr cedwch chwi oruchwyliaeth y cysegr, a goruchwyliaeth yr allor; fel na byddo digofaint mwy yn erbyn meibion Israel.
6 Ac wele, mi a gymerais dy frodyr di, y Lefiaid, o fysg meibion Israel: i ti y rhoddwyd hwynt, megis rhodd i'r Arglwydd, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod.
7 Tithau a'th feibion gyda thi a gedwch eich offeiriadaeth; ynghylch pob peth a berthyn i'r allor, ac o fewn y llen wahan, y gwasanaethwch: yn wasanaeth rhodd y rhoddais eich offeiriadaeth i chwi; a'r dieithr a ddelo yn agos, a leddir.
8 A llefarodd yr Arglwydd wrth Aaron, Wele, mi a roddais i ti hefyd oruchwyliaeth fy offrymau dyrchafael, o holl gysegredig bethau meibion Israel; rhoddais hwynt i ti, oherwydd yr eneiniad, ac i'th feibion, trwy ddeddf dragwyddol.
9 Hyn fydd i ti o'r pethau sancteiddiolaf a gedwir allan o'r tân: eu holl offrymau hwynt, eu holl fwyd‐offrwm, a'u holl aberthau dros bechod, a'u holl aberthau dros gamwedd, y rhai a dalant i mi, fyddant sancteiddiolaf i ti, ac i'th feibion.
10 O fewn y cysegr sanctaidd y bwytei ef; pob gwryw a'i bwyty ef: cysegredig fydd efe i ti.