9 Hyn fydd i ti o'r pethau sancteiddiolaf a gedwir allan o'r tân: eu holl offrymau hwynt, eu holl fwyd‐offrwm, a'u holl aberthau dros bechod, a'u holl aberthau dros gamwedd, y rhai a dalant i mi, fyddant sancteiddiolaf i ti, ac i'th feibion.
10 O fewn y cysegr sanctaidd y bwytei ef; pob gwryw a'i bwyty ef: cysegredig fydd efe i ti.
11 Hyn hefyd fydd i ti; offrwm dyrchafael eu rhoddion hwynt, ynghyd â holl offrymau cyhwfan meibion Israel: i ti y rhoddais hwynt, ac i'th feibion, ac i'th ferched gyda thi, trwy ddeddf dragwyddol pob un glân yn dy dŷ a gaiff fwyta ohono.
12 Holl oreuon yr olew, a holl oreuon y gwin a'r ŷd, sef eu blaenffrwyth hwynt yr hwn a roddant i'r Arglwydd, a roddais i ti.
13 Blaenffrwyth pob dim yn eu tir hwynt yr hwn a ddygant i'r Arglwydd, fydd eiddot ti: pob un glân yn dy dŷ a fwyty ohono.
14 Pob diofryd‐beth yn Israel fydd eiddot ti.
15 Pob peth a agoro'r groth o bob cnawd yr hwn a offrymir i'r Arglwydd, o ddyn ac o anifail, fydd eiddot ti: ond gan brynu y pryni bob cyntaf‐anedig i ddyn; a phrŷn y cyntaf‐anedig i'r anifail aflan.