12 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, Am na chredasoch i mi, i'm sancteiddio yng ngŵydd meibion Israel: am hynny ni ddygwch y dyrfa hon i'r tir a roddais iddynt.
13 Dyma ddyfroedd Meriba; lle yr ymgynhennodd meibion Israel â'r Arglwydd, ac y sancteiddiwyd ef ynddynt.
14 A Moses a anfonodd genhadon o Cades at frenin Edom, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Israel dy frawd; Ti a wyddost yr holl flinder a gawsom ni:
15 Pa wedd yr aeth ein tadau i waered i'r Aifft, ac yr arosasom yn yr Aifft lawer o ddyddiau; ac y drygodd yr Eifftiaid ni, a'n tadau.
16 A ni a waeddasom ar yr Arglwydd; ac efe a glybu ein llef ni, ac a anfonodd angel, ac a'n dug ni allan o'r Aifft: ac wele ni yn Cades, dinas ar gwr dy ardal di.
17 Atolwg, gad i ni fyned trwy dy wlad: nid awn trwy faes, na gwinllan, ac nid yfwn ddwfr un ffynnon: priffordd y brenin a gerddwn; ni thrown ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy, nes i ni fyned allan o'th derfynau di.
18 A dywedodd Edom wrtho, Na thyred heibio i mi, rhag i mi ddyfod â'r cleddyf i'th gyfarfod.