18 A dywedodd Edom wrtho, Na thyred heibio i mi, rhag i mi ddyfod â'r cleddyf i'th gyfarfod.
19 A meibion Israel a ddywedasant wrtho, Ar hyd y briffordd yr awn i fyny; ac os myfi neu fy anifeiliaid a yfwn o'th ddwfr di, rhoddaf ei werth ef; yn unig ar fy nhraed yr af trwodd yn ddiniwed.
20 Yntau a ddywedodd, Ni chei fyned trwodd. A daeth Edom allan i gyfarfod ag ef, â phobl lawer, ac â llaw gref.
21 Felly Edom a nacaodd roddi ffordd i Israel trwy ei fro: am hynny Israel a drodd oddi wrtho ef.
22 A meibion Israel, sef yr holl gynulleidfa, a deithiasant o Cades, ac a ddaethant i fynydd Hor.
23 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron ym mynydd Hor, wrth derfyn tir Edom, gan ddywedyd,
24 Aaron a gesglir at ei bobl: ac ni ddaw i'r tir a roddais i feibion Israel; am i chwi anufuddhau i'm gair, wrth ddwfr Meriba.