21 Felly Edom a nacaodd roddi ffordd i Israel trwy ei fro: am hynny Israel a drodd oddi wrtho ef.
22 A meibion Israel, sef yr holl gynulleidfa, a deithiasant o Cades, ac a ddaethant i fynydd Hor.
23 A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron ym mynydd Hor, wrth derfyn tir Edom, gan ddywedyd,
24 Aaron a gesglir at ei bobl: ac ni ddaw i'r tir a roddais i feibion Israel; am i chwi anufuddhau i'm gair, wrth ddwfr Meriba.
25 Cymer Aaron ac Eleasar ei fab, a dwg hwynt i fyny i fynydd Hor;
26 A diosg ei wisgoedd oddi am Aaron, a gwisg hwynt am Eleasar ei fab ef: canys Aaron a gesglir at ei bobl, ac a fydd farw yno.
27 A gwnaeth Moses megis y gorchmynnodd yr Arglwydd: a hwy a aethant i fyny i fynydd Hor, yng ngŵydd yr holl gynulleidfa.