3 Ac ymgynhennodd y bobl â Moses, a llefarasant, gan ddywedyd, O na buasem feirw pan fu feirw ein brodyr gerbron yr Arglwydd!
4 Paham y dygasoch gynulleidfa yr Arglwydd i'r anialwch hwn, i farw ohonom ni a'n hanifeiliaid ynddo?
5 A phaham y dygasoch ni i fyny o'r Aifft, i'n dwyn ni i'r lle drwg yma? lle heb had, na ffigysbren, na gwinwydden, na phomgranatbren, ac heb ddwfr i'w yfed?
6 A daeth Moses ac Aaron oddi gerbron y gynulleidfa, i ddrws pabell y cyfarfod; ac a syrthiasant ar eu hwynebau a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd iddynt.
7 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
8 Cymer y wialen, a chasgl y gynulleidfa ti ac Aaron dy frawd; ac yn eu gŵydd hwynt lleferwch wrth y graig, a hi a rydd ei dwfr: a thyn dithau iddynt ddwfr o'r graig, a dioda'r gynulleidfa a'u hanifeiliaid.
9 A Moses a gymerodd y wialen oddi gerbron yr Arglwydd, megis y gorchmynasai efe iddo.