6 A daeth Moses ac Aaron oddi gerbron y gynulleidfa, i ddrws pabell y cyfarfod; ac a syrthiasant ar eu hwynebau a gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd iddynt.
7 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
8 Cymer y wialen, a chasgl y gynulleidfa ti ac Aaron dy frawd; ac yn eu gŵydd hwynt lleferwch wrth y graig, a hi a rydd ei dwfr: a thyn dithau iddynt ddwfr o'r graig, a dioda'r gynulleidfa a'u hanifeiliaid.
9 A Moses a gymerodd y wialen oddi gerbron yr Arglwydd, megis y gorchmynasai efe iddo.
10 A Moses ac Aaron a gynullasant y dyrfa ynghyd o flaen y graig: ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch yn awr, chwi wrthryfelwyr; Ai o'r graig hon y tynnwn i chwi ddwfr?
11 A Moses a gododd ei law, ac a drawodd y graig ddwy waith â'i wialen: a daeth dwfr lawer allan; a'r gynulleidfa a yfodd, a'u hanifeiliaid hefyd.
12 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, Am na chredasoch i mi, i'm sancteiddio yng ngŵydd meibion Israel: am hynny ni ddygwch y dyrfa hon i'r tir a roddais iddynt.