1 A'r brenin Arad, y Canaanead, preswylydd y deau, a glybu fod Israel yn dyfod ar hyd ffordd yr ysbïwyr; ac a ryfelodd yn erbyn Israel, ac a ddaliodd rai ohonynt yn garcharorion.
2 Ac addunodd Israel adduned i'r Arglwydd, ac a ddywedodd, Os gan roi y rhoddi y bobl yma yn fy llaw, yna mi a ddifrodaf eu dinasoedd hwynt.
3 A gwrandawodd yr Arglwydd ar lais Israel; ac a roddodd y Canaaneaid yn ei law ef; ac efe a'u difrododd hwynt, a'u dinasoedd; ac a alwodd enw y lle hwnnw Horma.
4 A hwy a aethant o fynydd Hor, ar hyd ffordd y môr coch, i amgylchu tir Edom: a chyfyng ydoedd ar enaid y bobl, oherwydd y ffordd.
5 A llefarodd y bobl yn erbyn Duw, ac yn erbyn Moses, Paham y dygasoch ni o'r Aifft, i farw yn yr anialwch? canys nid oes na bara na dwfr; a ffiaidd yw gan ein henaid y bara gwael hwn.
6 A'r Arglwydd a anfonodd ymysg y bobl seirff tanllyd; a hwy a frathasant y bobl: a bu feirw o Israel bobl lawer.
7 A daeth y bobl at Moses, adywedasant Pechasom; canys llefarasom yn erbyn yr Arglwydd, ac yn dy erbyn dithau: gweddïa ar yr Arglwydd, ar yrru ohono ef y seirff oddi wrthym. A gweddïodd Moses dros y bobl.