14 Am hynny dywedir yn llyfr rhyfeloedd yr Arglwydd, Y peth a wnaeth efe yn y môr coch, ac yn afonydd Arnon,
15 Ac wrth raeadr yr afonydd, yr hwn a dreigla i breswylfa Ar, ac a bwysa at derfyn Moab.
16 Ac oddi yno yr aethant i Beer: honno yw y ffynnon lle y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Casgl y bobl ynghyd, a mi a roddaf iddynt ddwfr.
17 Yna y canodd Israel y gân hon: Cyfod, ffynnon; cenwch iddi.
18 Ffynnon a gloddiodd y tywysogion, ac a gloddiodd penaethiaid y bobl, ynghyd â'r deddfwr, â'u ffyn. Ac o'r anialwch yr aethant i Mattana:
19 Ac o Mattana i Nahaliel; ac o Nahaliel i Bamoth:
20 Ac o Bamoth, yn y dyffryn sydd yng ngwlad Moab, i ben y bryn sydd yn edrych tua'r diffeithwch.