28 Canys tân a aeth allan o Hesbon, a fflam o ddinas Sehon: bwytaodd Ar ym Moab, a pherchenogion Bamoth Arnon.
29 Gwae di, Moab; darfu amdanat, bobl Cemos: rhoddodd ei feibion dihangol, a'i ferched, mewn caethiwed i Sehon brenin yr Amoriaid.
30 Saethasom hwynt: darfu am Hesbon, hyd Dibon: ac anrheithiasom hyd Noffa, yr hon sydd hyd Medeba.
31 A thrigodd Israel yn nhir yr Amoriaid.
32 A Moses a anfonodd i chwilio Jaser: a hwy a orchfygasant ei phentrefydd hi, ac a yrasant ymaith yr Amoriaid y rhai oedd yno.
33 Troesant hefyd ac aethant i fyny hyd ffordd Basan: ac Og brenin Basan a ddaeth allan yn eu herbyn hwynt i ryfel, hyd Edrei, efe a'i holl bobl.
34 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Nac ofna ef: canys yn dy law di y rhoddais ef, a'i holl bobl, a'i dir; a gwnei iddo ef megis y gwnaethost i Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon.