32 A Moses a anfonodd i chwilio Jaser: a hwy a orchfygasant ei phentrefydd hi, ac a yrasant ymaith yr Amoriaid y rhai oedd yno.
33 Troesant hefyd ac aethant i fyny hyd ffordd Basan: ac Og brenin Basan a ddaeth allan yn eu herbyn hwynt i ryfel, hyd Edrei, efe a'i holl bobl.
34 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Nac ofna ef: canys yn dy law di y rhoddais ef, a'i holl bobl, a'i dir; a gwnei iddo ef megis y gwnaethost i Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon.
35 Am hynny y trawsant ef, a'i feibion, a'i holl bobl, fel na adawyd iddo ef weddill: a hwy a berchenogasant ei dir ef.