1 A thrigodd Israel yn Sittim; a dechreuodd y bobl odinebu gyda merched Moab.
2 A galwasant y bobl i aberthau eu duwiau hwynt; a bwytaodd y bobl, ac addolasant eu duwiau hwynt.
3 Ac ymgyfeillodd Israel â Baal‐Peor; ac enynnodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn Israel.
4 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cymer holl benaethiaid y bobl, a chrog hwynt i'r Arglwydd ar gyfer yr haul; fel y dychwelo llid digofaint yr Arglwydd oddi wrth Israel.
5 A dywedodd Moses wrth farnwyr Israel, Lleddwch bob un ei ddynion, y rhai a ymgyfeillasant â Baal‐Peor.
6 Ac wele, gŵr o feibion Israel a ddaeth, ac a ddygodd Fidianees at ei frodyr, yng ngolwg Moses, ac yng ngolwg holl gynulleidfa meibion Israel, a hwynt yn wylo wrth ddrws pabell y cyfarfod.
7 A gwelodd Phinees mab Eleasar, mab Aaron yr offeiriad; ac a gododd o ganol y gynulleidfa, ac a gymerodd waywffon yn ei law;