7 A gwelodd Phinees mab Eleasar, mab Aaron yr offeiriad; ac a gododd o ganol y gynulleidfa, ac a gymerodd waywffon yn ei law;
8 Ac a aeth ar ôl y gŵr o Israel i'r babell; ac a'u gwanodd hwynt ill dau, sef y gŵr o Israel, a'r wraig trwy ei cheudod. Ac ataliwyd y pla oddi wrth feibion Israel.
9 A bu feirw o'r pla bedair mil ar hugain.
10 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
11 Phinees mab Eleasar, mab Aaron yr offeiriad, a drodd fy nicter oddi wrth feibion Israel, (pan eiddigeddodd efe drosof fi yn eu mysg,) fel na ddifethais feibion Israel yn fy eiddigedd.
12 Am hynny dywed, Wele fi yn rhoddi iddo fy nghyfamod o heddwch.
13 A bydd iddo ef, ac i'w had ar ei ôl ef, amod o offeiriadaeth dragwyddol; am iddo eiddigeddu dros ei Dduw, a gwneuthur cymod dros feibion Israel.