1 A bu, wedi'r pla, lefaru o'r Arglwydd wrth Moses, ac wrth Eleasar mab Aaron yr offeiriad, gan ddywedyd,
2 Cymerwch nifer holl gynulleidfa meibion Israel, o fab ugain mlwydd ac uchod, trwy dŷ eu tadau, pob un a allo fyned i ryfel yn Israel.
3 A llefarodd Moses ac Eleasar yr offeiriad wrthynt yn rhosydd Moab, wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho, gan ddywedyd
4 Rhifwch y bobl, o fab ugain mlwydd ac uchod; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses, a meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft.