15 Meibion Gad, wrth eu tylwythau. O Seffon, tylwyth y Seffoniaid: o Haggi, tylwyth yr Haggiaid: o Suni, tylwyth y Suniaid:
16 O Osni, tylwyth yr Osniaid: o Eri, tylwyth yr Eriaid:
17 O Arod, tylwyth yr Arodiaid: o Areli, tylwyth yr Areliaid.
18 Dyma deuluoedd meibion Gad, dan eu rhif; deugain mil a phum cant.
19 Meibion Jwda oedd, Er ac Onan: a bu farw Er ac Onan yn nhir Canaan.
20 A meibion Jwda, wrth eu teuluoedd. O Sela, tylwyth y Selaniaid: o Phares, tylwyth y Pharesiaid: o Sera, tylwyth y Serahiaid.
21 A meibion Phares oedd; o Hesron, tylwyth yr Hesroniaid: o Hamul, tylwyth yr Hamuliaid.