20 A meibion Jwda, wrth eu teuluoedd. O Sela, tylwyth y Selaniaid: o Phares, tylwyth y Pharesiaid: o Sera, tylwyth y Serahiaid.
21 A meibion Phares oedd; o Hesron, tylwyth yr Hesroniaid: o Hamul, tylwyth yr Hamuliaid.
22 Dyma dylwyth Jwda, dan eu rhif; onid pedair mil pedwar ugain mil a phum cant.
23 Meibion Issachar, wrth eu tylwythau oedd; o Tola, tylwyth y Tolaiaid: o Pua, tylwyth y Puhiaid:
24 O Jasub, tylwyth y Jasubiaid: o Simron, tylwyth y Simroniaid.
25 Dyma deuluoedd Issachar, dan eu rhif; pedair mil a thrigain mil a thri chant.
26 Meibion Sabulon, wrth eu teuluoedd oedd; o Sered, tylwyth y Sardiaid: o Elon, tylwyth yr Eloniaid: o Jahleel, tylwyth y Jahleeliaid.