41 Dyma feibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd: dan eu rhif yr oeddynt yn bum mil a deugain a chwe chant.
42 Dyma feibion Dan, yn ôl eu teuluoedd. O Suham, tylwyth y Suhamiaid. Dyma dylwyth Dan, yn ôl eu teuluoedd.
43 A holl dylwyth y Suhamiaid oedd, yn ôl eu rhifedigion, bedair mil a thrigain a phedwar cant.
44 Meibion Aser, wrth eu teuluoedd, oedd; o Jimna, tylwyth y Jimniaid: o Jesui, tylwyth y Jesuiaid: o Bereia tylwyth y Bereiaid.
45 O feibion Bereia, yr oedd; o Heber, tylwyth yr Heberiaid: o Malciel, tylwyth y Malcieliaid.
46 Ac enw merch Aser ydoedd Sara.
47 Dyma deuluoedd meibion Aser, yn ôl eu rhifedigion; tair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.