45 O feibion Bereia, yr oedd; o Heber, tylwyth yr Heberiaid: o Malciel, tylwyth y Malcieliaid.
46 Ac enw merch Aser ydoedd Sara.
47 Dyma deuluoedd meibion Aser, yn ôl eu rhifedigion; tair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.
48 Meibion Nafftali, wrth eu teuluoedd oedd; o Jahseel, tylwyth y Jahseeliaid: o Guni, tylwyth y Guniaid:
49 O Jeser, tylwyth y Jeseriaid: o Silem, tylwyth y Silemiaid.
50 Dyma dylwyth Nafftali, yn ôl eu teuluoedd, dan eu rhif; pum mil a deugain a phedwar cant.
51 Dyma rifedigion meibion Israel; chwe chan mil, a mil saith gant a deg ar hugain.