48 Meibion Nafftali, wrth eu teuluoedd oedd; o Jahseel, tylwyth y Jahseeliaid: o Guni, tylwyth y Guniaid:
49 O Jeser, tylwyth y Jeseriaid: o Silem, tylwyth y Silemiaid.
50 Dyma dylwyth Nafftali, yn ôl eu teuluoedd, dan eu rhif; pum mil a deugain a phedwar cant.
51 Dyma rifedigion meibion Israel; chwe chan mil, a mil saith gant a deg ar hugain.
52 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
53 I'r rhai hyn y rhennir y tir yn etifeddiaeth, yn ôl rhifedi yr enwau.
54 I lawer y chwanegi yr etifeddiaeth, ac i ychydig prinha yr etifeddiaeth: rhodder i bob un ei etifeddiaeth yn ôl ei rifedigion.