50 Dyma dylwyth Nafftali, yn ôl eu teuluoedd, dan eu rhif; pum mil a deugain a phedwar cant.
51 Dyma rifedigion meibion Israel; chwe chan mil, a mil saith gant a deg ar hugain.
52 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
53 I'r rhai hyn y rhennir y tir yn etifeddiaeth, yn ôl rhifedi yr enwau.
54 I lawer y chwanegi yr etifeddiaeth, ac i ychydig prinha yr etifeddiaeth: rhodder i bob un ei etifeddiaeth yn ôl ei rifedigion.
55 Eto wrth goelbren y rhennir y tir: wrth enwau llwythau eu tadau yr etifeddant
56 Wrth farn y coelbren y rhennir ei etifeddiaeth, rhwng llawer ac ychydig.