1 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2 Gorchymyn i feibion Israel, a dywed wrthynt, Gwyliwch am offrymu i mi fy offrwm, a'm bara i'm hebyrth tanllyd, o arogl peraidd yn eu tymor.
3 A dywed wrthynt, Dyma yr aberth tanllyd a offrymwch i'r Arglwydd. Dau oen blwyddiaid perffaith‐gwbl, bob dydd, yn boethoffrwm gwastadol.
4 Un oen a offrymi di y bore, a'r oen arall a offrymi di yn yr hwyr;
5 A degfed ran effa o beilliaid yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy bedwaredd ran hin o olew coethedig.