10 Dyma boethoffrwm pob Saboth, heblaw y poethoffrwm gwastadol, a'i ddiod‐offrwm.
11 Ac ar ddechrau eich misoedd yr offrymwch, yn boethoffrwm i'r Arglwydd, ddau o fustych ieuainc, ac un hwrdd, a saith oen blwyddiaid,perffaith‐gwbl
12 A thair degfed ran o beilliaid, yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob bustach; a dwy ddegfed ran o beilliaid, yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob hwrdd;
13 A phob yn ddegfed ran o beilliaid, yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob oen, yn offrwm poeth o arogl peraidd, yn aberth tanllyd i'r Arglwydd.
14 A'u diod‐offrwm fydd hanner hin gyda bustach, a thrydedd ran hin gyda hwrdd, a phedwaredd ran hin o win gydag oen. Dyma boethoffrwm mis yn ei fis, trwy fisoedd y flwyddyn.
15 Ac un bwch geifr fydd yn bech‐aberthi'r Arglwydd: heblaw y gwastadol boethoffrwm yr offrymir ef, a'i ddiod‐offrwm.
16 Ac yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis, y bydd Pasg yr Arglwydd.