14 A'u diod‐offrwm fydd hanner hin gyda bustach, a thrydedd ran hin gyda hwrdd, a phedwaredd ran hin o win gydag oen. Dyma boethoffrwm mis yn ei fis, trwy fisoedd y flwyddyn.
15 Ac un bwch geifr fydd yn bech‐aberthi'r Arglwydd: heblaw y gwastadol boethoffrwm yr offrymir ef, a'i ddiod‐offrwm.
16 Ac yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis, y bydd Pasg yr Arglwydd.
17 Ac ar y pymthegfed dydd o'r mis hwn y bydd yr ŵyl: saith niwrnod y bwyteir bara croyw.
18 Ar y dydd cyntaf y bydd cymanfa sanctaidd: na wnewch ddim caethwaith ynddo.
19 Ond offrymwch yn aberth tanllyd, ac yn boethoffrwm i'r Arglwydd, ddau o fustych ieuainc, ac un hwrdd, a saith oen blwyddiaid: byddant gennych yn berffaith‐gwbl.
20 Eu bwyd‐offrwm hefyd fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew: tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd, a offrymwch chwi;