26 Ac ar ddydd eich blaenffrwythau, pan offrymoch fwyd‐offrwm newydd i'r Arglwydd, wedi eich wythnosau,cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch.
27 Ond offrymwch ddau fustach ieuainc un hwrdd, a saith oen blwyddiaid, yn boethoffrwm, o arogl peraidd i'r Arglwydd.
28 A bydded eu bwyd‐offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda phob bustach, dwy ddegfed ran gyda phob hwrdd;
29 Bob yn ddegfed ran gyda phob oen, o'r saith oen:
30 Un bwch geifr, i wneuthur cymod drosoch.
31 Heblaw y poethoffrwm gwastadol, a'i fwyd‐offrwm, yr offrymwch hyn, (byddant gennych yn berffaith‐gwbl,) ynghyd â'u diod‐offrwm.