5 A degfed ran effa o beilliaid yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy bedwaredd ran hin o olew coethedig.
6 Dyma y poethoffrwm gwastadol a wnaed ym mynydd Sinai, yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i'r Arglwydd.
7 A'i ddiod‐offrwm fydd bedwaredd ran hin gyda phob oen: pâr dywallt y ddiod gref yn ddiod‐offrwm i'r Arglwydd, yn y cysegr.
8 Yr ail oen a offrymi yn yr hwyr: megis bwyd‐offrwm y bore, a'i ddiod‐offrwm yr offrymi ef, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd.
9 Ac ar y dydd Saboth, dau oen blwyddiaid, perffaith‐gwbl, a dwy ddegfed ran o beilliaid yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, a'i ddiod‐offrwm.
10 Dyma boethoffrwm pob Saboth, heblaw y poethoffrwm gwastadol, a'i ddiod‐offrwm.
11 Ac ar ddechrau eich misoedd yr offrymwch, yn boethoffrwm i'r Arglwydd, ddau o fustych ieuainc, ac un hwrdd, a saith oen blwyddiaid,perffaith‐gwbl