16 Ac un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a'i ddiod‐offrwm.
17 Ac ar yr ail ddydd yr offrymwch ddeuddeng mustach ieuainc, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl.
18 A'u bwyd‐offrwm, a'u diod‐offrwm, gyda'r bustych, gyda'r hyrddod, a chyda'r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:
19 Ac un bwch geifr, yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a'i fwyd‐offrwm a'u diod‐offrymau.
20 Ac ar y trydydd dydd, un bustach ar ddeg, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl:
21 A'u bwyd‐offrwm, a'u diod‐offrwm, gyda'r bustych, gyda'r hyrddod, a chyda'r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:
22 Ac un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a'i fwyd‐offrwm, a'i ddiod‐offrwm.