8 Ond offrymwch boethoffrwm i'r Arglwydd, yn arogl peraidd, un bustach ieuanc, un hwrdd, saith oen blwyddiaid: byddant berffaith‐gwbl gennych.
9 A'u bwyd‐offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd;
10 Bob yn ddegfed ran gyda phob oen, o'r saith oen:
11 Un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw pech‐aberth y cymod, a'r poethoffrwm gwastadol, a'i fwyd‐offrwm, a'u diod‐offrymau.
12 Ac ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis, cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch; eithr cedwch ŵyl i'r Arglwydd saith niwrnod.
13 Ac offrymwch offrwm poeth, aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd; tri ar ddeg o fustych ieuainc, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid: byddant berffaith‐gwbl.
14 A'u bwyd‐offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda phob bustach, o'r tri bustach ar ddeg; dwy ddegfed ran gyda phob hwrdd, o'r ddau hwrdd;