13 Canys eiddof fi yw pob cyntaf‐anedig Ar y dydd y trewais y cyntaf‐anedig yn nhir yr Aifft, cysegrais i mi fy hun bob cyntaf‐anedig yn Israel o ddyn ac anifail: eiddof fi ydynt: myfi yw yr Arglwydd.
14 Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, gan ddywedyd
15 Cyfrif feibion Lefi yn ôl tŷ eu tadau, trwy eu teuluoedd: cyfrif hwynt, bob gwryw, o fab misyriad ac uchod.
16 A Moses a'u cyfrifodd hwynt wrth air yr Arglwydd, fel y gorchmynasid iddo.
17 A'r rhai hyn oedd feibion Lefi wrth eu henwau; Gerson, a Cohath, a Merari.
18 A dyma enwau meibion Gerson, yn ôl eu teuluoedd; Libni a Simei.
19 A meibion Cohath, yn ôl eu teuluoedd Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel.