1 A llefarodd Moses wrth benaethiaid llwythau meibion Israel, gan ddywedyd, Dyma'r peth a orchmynnodd yr Arglwydd.
2 Os adduneda gŵr adduned i'r Arglwydd, neu dyngu llw, gan rwymo rhwymedigaeth ar ei enaid ei hun; na haloged ei air: gwnaed yn ôl yr hyn oll a ddêl allan o'i enau.
3 Ac os adduneda benyw adduned i'r Arglwydd, a'i rhwymo ei hun â rhwymedigaeth yn nhŷ ei thad, yn ei hieuenctid;
4 A chlywed o'i thad ei hadduned, a'i rhwymedigaeth yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid, a thewi o'i thad wrthi: yna safed ei holl addunedau; a phob rhwymedigaeth a rwymodd hi ar ei henaid, a saif.
5 Ond os ei thad a bair iddi dorri, ar y dydd y clywo efe; o'i holl addunedau, a'i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid, ni saif un: a maddau yr Arglwydd iddi, o achos mai ei thad a barodd iddi dorri.