11 A chlywed o'i gŵr, a thewi wrthi, heb beri iddi dorri: yna safed ei holl addunedau; a phob rhwym a rwymodd hi ar ei henaid, a saif.
12 Ond os ei gŵr gan ddiddymu a'u diddyma hwynt y dydd y clywo; ni saif dim a ddaeth allan o'i gwefusau, o'i haddunedau, ac o rwymedigaeth ei henaid: ei gŵr a'u diddymodd hwynt; a'r Arglwydd a faddau iddi.
13 Pob adduned, a phob rhwymedigaeth llw i gystuddio'r enaid, ei gŵr a'i cadarnha, a'i gŵr a'i diddyma.
14 Ac os ei gŵr gan dewi a dau wrthi o ddydd i ddydd; yna y cadarnhaodd efe ei holl addunedau, neu ei holl rwymedigaethau y rhai oedd arni: cadarnhaodd hwynt, pan dawodd wrthi, y dydd y clybu efe hwynt.
15 Ac os efe gan ddiddymu a'u diddyma hwynt wedi iddo glywed; yna efe a ddwg ei hanwiredd hi.
16 Dyma y deddfau a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses, rhwng gŵr a'i wraig, a rhwng tad a'i ferch, yn ei hieuenctid yn nhŷ ei thad.