4 A chlywed o'i thad ei hadduned, a'i rhwymedigaeth yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid, a thewi o'i thad wrthi: yna safed ei holl addunedau; a phob rhwymedigaeth a rwymodd hi ar ei henaid, a saif.
5 Ond os ei thad a bair iddi dorri, ar y dydd y clywo efe; o'i holl addunedau, a'i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid, ni saif un: a maddau yr Arglwydd iddi, o achos mai ei thad a barodd iddi dorri.
6 Ac os hi oedd yn eiddo gŵr, pan addunedodd, neu pan lefarodd o'i gwefusau beth a rwymo ei henaid hi;
7 A chlywed o'i gŵr, a thewi wrthi y dydd y clywo: yna safed ei haddunedau; a'i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid, a safant.
8 Ond os ei gŵr, ar y dydd y clywo, a bair iddi dorri; efe a ddiddyma ei hadduned yr hwn fydd arni, a thraethiad ei gwefusau yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid: a'r Arglwydd a faddau iddi.
9 Ond adduned y weddw, a'r ysgaredig, yr hyn oll a rwymo hi ar ei henaid, a saif arni.
10 Ond os yn nhŷ ei gŵr yr addunedodd, neu y rhwymodd hi rwymedigaeth ar ei henaid trwy lw;